Dechreuodd Glowon fel cwmni datblygu meddalwedd a gwefannau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'n cyweithiau wedi bod yn ymwneud â marchnata ar-lein, symudol neu DVD ac fe sylweddolom taw dyna'r gwaith oedd yn ein cynhyrfu. Rydym ni nawr yn canolbwyntio ar farchnata digidol yn unig er mwyn rhoi'r gwasanaeth gorau posib i'n cwsmeriaid.
Mae cwmnïau Cymreig yn araf yn dechrau defnyddio marchnata digidol. Maent yn tueddu i ddefnyddio'r technegau marchnata traddodiadol heb syolweddoli manteision defnyddio marchnata digidol fel rhan bwysig o'r strategaeth farchnata gyfan. Mae Glowon yn gweithio gyda cwmnïau lleol ac asiantaethau marchnata lleol er mwyn gwella ar lwyddiant BBaCh yng Nghymru.
Os ydych yn golygu gwella'ch presenoldeb ar-lein drwy gyfrwng symudol, feiral neu farchnata busnes-i-fusnes, neu efallai wefan feicro addysgiadol, yna Glowon yw'r lle i ddod.