Mae llawer o gwmnïau heddiw yn sylweddoli pwysigrwydd strategol dysg digidol. Os taw gwella delwedd neu gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y gymuned yw'r nod, mae nifer gynyddol o gwmnïau yn darparu adnoddau addysgiadol fel rhan o'u hunaniaeth gorfforaethol. I'r sector gyhoeddus a phreifat, gall dysg dros y we neu drwy DVD fod yn ffordd wych o addysgu pobl tra'n amlygu eich brand.
Mae gan Glowon gefndir cyfoethog mewn defnyddio technoleg mewn ffyrdd creadigol i wella dysg. Rydym yn hyderus o'n gallu i hyrwyddo gweledigaeth eich cwmni yn llwyddiannus trwy brofiad addysgiadol atyniadol a grymus.